.png)
Gweledigaeth a Gwerthoedd

Rydym yn gwerthfawrogi pawb sy’n gweithio gyda ni, ac rydym yn annog pawb i gyfrannu at ein gweithgareddau.
Rydym yn credu mewn dysgu a datblygu gydol oes.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac ymddiried yn ein holl berthnasoedd.
Rydym hefyd yn credu mewn cydnabod a gwobrwyo ein staff, cydweithwyr a gwirfoddolwyr.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn gweithio'n gynhwysol.
Rydym yn annog ac yn meithrin uchelgais, annibyniaeth a pharch.
Ein gweledigaeth yw cyd-gynhyrchu ystod eang o gyfleoedd! Pwy yw ein cyd-gynhyrchwyr? Yn gyntaf ac yn bennaf mae ein tîm craidd yn cynnwys gofalwyr ifanc a'r staff yma yn YCA, ac mae'r tîm mwy yn cynnwys cydweithwyr sy'n ymuno â ni ar brosiectau ac yn gweithio ochr yn ochr â ni. Mae pob un ohonom yn gweithio tuag at y weledigaeth o gael a chynnal lles sy'n ein helpu i fod ar ein 'gorau'.
Mae ein holl waith yn canolbwyntio ar les, rydym yn credu os gallwn ddod o hyd i ffyrdd o aros yn iach, beth bynnag fo'r amgylchiadau, yna mae ein cyfleoedd bywyd yn gwella hefyd.

